CCTV operator at a bank of CCTV cameras.

Canmoliaethau a Chwynion

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn ffordd deg, barchus, a thryloyw.

Cartref / Canmoliaethau a Chwynion

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn ffordd deg, barchus, a thryloyw.  Mae eich adborth – boed yn gadarnhaol neu’n feirniadol – o gymorth i ni wella’r hyn a wnawn a chydnabod arferion da.  

Os hoffech rannu adborth cadarnhaol, neu os ydych yn anhapus gyda gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn, rydym yn eich annog i gysylltu â ni.

Rhoi Canmoliaeth

Os ydych wedi derbyn gwasanaeth a wnaeth fodloni eich disgwyliadau neu ragori arnynt, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Rhennir canmoliaeth gyda staff a thimau, ac mae hyn o gymorth i ni gydnabod gwaith da a hybu arferion gorau ledled ein gwasanaethau.

Sut i roi canmoliaeth

Anfonwch e-bost at: cwynion@conwy.gov.uk

Gwneud Cwyn

Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le neu’r ydych yn anfodlon gyda gwasanaeth a ddarparwyd gan Ganolfan Derbyn Larymau Conwy, gellwch wneud cwyn swyddogol.

Ymdrinnir â phob cwyn yn unol â Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol Conwy, sy’n nodi:

  • Sut mae cwynion yn cael eu derbyn a’u prosesu
  • Sut yr ymchwilir iddynt
  • Amseroedd ymateb disgwyliedig
  • Beth ellwch ei wneud os ydych yn dal i fod yn anfodlon

Polisi a Chanllawiau Cwynion Cyhoeddus 2024

Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif. Bydd cwynion yn cael eu monitro a’u hadolygu i’n helpu i ddysgu o adborth a gwella ein gwasanaethau.

Sut i wneud cwyn

Anfonwch e-bost at: cwynion@conwy.gov.uk

Cysylltwch â ni

Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!

Coed Pella Building Exterior
Ardystiad
NSI
Aur
Two emergency call centre operatives taking calls whilst stat as their desks.

Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?

Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch

  • Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518).
  • Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
  • Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
  • Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
  • Cyfleuster “byncer” cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
  • Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.