Adeilad Coed Pella yn y nos.

Beth yw Ardystiad Categori 1 NSI Aur?

Ardystiad Categori I NSI Aur ac wedi’i Gefnogi gan Lywodraeth Leol

Cartref / Beth yw Ardystiad Categori 1 NSI Aur?

Beth yw Ardystiad Categori 1 NSI Aur?

Rydym ni wedi cael Achrediad Categori 1 NSI Aur, wedi ein hardystio i EN 50518 – y safon Ewropeaidd gyfredol ar gyfer Canolfannau Derbyn Larymau. Mae hyn yn cadarnhau bod ein Canolfan Derbyn Larymau wedi'i lunio i ymdrin â chontractau monitro trydydd parti, gan sicrhau gwydnwch, systemau wrth gefn ac adfer ar ôl chwalfa.

I'r gwrthwyneb, mae Cymal 4.2 EN 50518 yn nodi’n glir mai i fonitro eiddo'r perchennog ei hun yn unig yw bwriad Canolfannau Derbyn larymau Categori II. Ni allant ddal cyfeirnodau unigryw yr heddlu na darparu monitro annibynnol ar gyfer cwsmeriaid allanol. Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy yn Gategori I – y safon uchaf – sy'n golygu y gallwn ni gefnogi busnesau, cynghorau, yswirwyr a darparwyr tai drwy fonitro annibynnol wedi'i wirio.

Bathodyn Aur NSI

Cysylltwch â ni

Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!

Adeilad Coed Pella
Ardystiad
NSI
Aur
Dau weithiwr canolfan alwadau yn ateb galwadau yng nghanolfan alwadau Galw Gofal.

Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?

Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch

  • Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518)Highest
  • Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
  • Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
  • Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
  • Cyfleuster "byncer" cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
  • Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.