Pam mae tyrrau TCC wedi'u pweru â batri angen system fonitro broffesiynol i gynnig diogelwch
Mae tyrrau TCC wedi’u pweru â batri’n gofyn am fonitro proffesiynol. Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy’n rhoi rhybuddion am fatri, monitro’r signal ac yn ymateb i larymau wedi’u gwirio ar gyfer safleoedd pell.
Pam mae tyrrau TCC wedi’u pweru â batri angen system fonitro broffesiynol i gynnig diogelwch
Mae systemau TCC wedi’u pweru â batri’n cael eu defnyddio’n aml ar safleoedd adeiladu a safleoedd pell, ond maent angen eu monitro’n broffesiynol i berfformio ar eu gorau. Heb eu goruchwylio’n rheolaidd, gall y systemau hyn wynebu problemau fel batri’n mynd yn isel, cysylltiad toredig, tywydd yn amharu a larymau heb eu gwirio. Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy’n arbenigo mewn monitro dyfeisiau TCC batri, rhoi rhybuddion am fatri, monitro’r signal, gwirio larymau ac uwchgyfeirio’n gyflym. Mae hyn yn sicrhau bod safleoedd pell a thros dro’n cael eu gwarchod yn barhaus, beth bynnag fo’r amodau.
Cysylltwch â ni
Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!
Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?
Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch
- Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518)Highest
- Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
- Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
- Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
- Cyfleuster "byncer" cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
- Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.