Apiau TCC hunan-fonitro'n methu safleoedd adeiladu ac isadeiledd
Mae apiau hunan-fonitro’n methu larymau ac yn creu risgiau i ddiogelwch. Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy yn cynnig gwasanaeth monitro ac uwchgyfeirio proffesiynol bob awr o bob dydd ar gyfer safleoedd adeiladu ac isadeiledd risg uchel.
Apiau TCC hunan-fonitro’n methu safleoedd adeiladu ac isadeiledd
Mae’n dod i’r amlwg bod apiau TCC hunan-fonitro’n aneffeithiol i warchod safleoedd adeiladu ac isadeiledd a safleoedd pell. Mae llawer o fusnesau’n dal i ddibynnu ar hysbysiadau ffôn symudol, ond mae data’r diwydiant yn dangos nad yw’r systemau hynny’n effeithiol iawn. Mae hunan-fonitro’n gallu arwain at fethu rhybuddion pan mae defnyddwyr yn cysgu neu’n brysur, dim uwchgyfeirio ar ôl gwirio, dim cofnod archwilio ac oedi wrth ymateb i fygythiadau go iawn. Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy’n monitro bob awr o bob dydd gyda threfniadau gwirio larymau, strwythur uwchgyfeirio ac ymateb proffesiynol i ddigwyddiadau. Wrth i yswirwyr a chontractwyr alw am fwy o gydymffurfiaeth ddiogelwch, mae pobl rŵan yn ffafrio monitro larymau’n broffesiynol yn hytrach na hunan-fonitro.
Cysylltwch â ni
Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!
Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?
Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch
- Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518)Highest
- Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
- Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
- Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
- Cyfleuster "byncer" cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
- Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.