Canolfannau monitro bellach yn dod o hyd i ddiffygion yn y system yn gynt na thimau ar y safle
Mae Canolfan Derbyn Larymau Conwy yn aml yn dod o hyd i ddiffygion systemau cyn y timau ar y safle, sy’n helpu i leihau amser segur a chadw safleoedd adeiladu ac isadeiledd yn ddiogel.
Canolfannau monitro bellach yn dod o hyd i ddiffygion yn y system yn gynt na thimau ar y safle
Canolfannau monitro yw’r cyntaf bellach i ddod o hyd i ddiffygion mewn systemau TCC a larymau. Mae gweithredwyr Canolfan Derbyn Larymau Conwy yn aml yn dod o hyd i fatris sydd ddim yn gweithio, problemau signal, camerâu oddi-ar-lein, colli pŵer a lensys wedi’u gorchuddio cyn i staff y safleoedd sylwi arnynt. Gan fod Canolfan Derbyn Larymau Conwy’n gweithredu bob awr o bob dydd, mae modd rhoi gwybod i osodwyr neu dimau ar y safle am broblemau â’r system yn syth, sy’n lleihau amser segur ac yn atal bylchau. Mae dod o hyd i ddiffygion yn gynnar yn gwarchod safleoedd adeiladu, asedau pell a phrosiectau isadeiledd drwy sicrhau bod systemau’n dal i weithredu ac yn ddibynadwy bob amser.
Cysylltwch â ni
Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!
Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?
Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch
- Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518)Highest
- Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
- Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
- Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
- Cyfleuster "byncer" cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
- Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.